Prosiect Ymchwil Presennol
Teitl Doethuriaeth: Astudiaeth gymharol o'r ffactorau arwyddocaol sy’n effeithio ar ryngwladoli o fewn busnesau bychain a chanolog bwyd a diod yng Nghymru a Llydaw.
Nod: Nod yr astudiaeth yma yw meithrin dealltwriaeth fanwl o'r ffactorau arwyddocaol sy'n dylanwadu ac yn llesteirio rhyngwladoli o gwmnïau bychain a chanolig yn y diwydiant bwyd a diod. Cynhelir astudiaeth gymharol i edrych ar gwmnïau bychain a chanolog bwyd a diod yng Nghymru a Llydaw yn Ffrainc. Dewiswyd y rhanbarthau hyn oherwydd maent yn rhannu hunaniaeth ddiwylliannol debyg a diwydiant bwyd a diod cryf. Mae Llydaw yn rhanbarth o ddiddordeb i mi, oherwydd fy mod i wedi treulio 7 mlynedd yn byw yn Nantes, prifddinas hanesyddol Llydaw.
Effaith: Y canlyniad a fwriedir o'r astudiaeth yma yw helpu hwyluso cwmnïau bychain a chanolog a Llywodraethau i gynllunio strategaethau ar gyfer twf rhyngwladol mewn diwydiant sy'n bwysig iawn i'r ddau ranbarth. Mae nifer o enghreifftiau o gwmnïau yn y ddau ranbarth yn rhyngwladoli’n llwyddiannus, felly mae'n angenrheidiol i ennill dealltwriaeth o sut mae hyn wedi digwydd a chymharu’r canfyddiadau hyn gyda'r cwmnïau sydd ddim yn gwerthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd tramor ar hyn o bryd.
Y broses ymchwil: Datblygwyd holiadur ar-lein fel y prif ddull o gasglu data ar gyfer y prosiect hwn, a ddosberthir i gynhyrchwyr bwyd a diod yn y ddau ranbarth. Yn ogystal, bydd yr ail gam o gasglu data yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gyda sampl ar hap o'r cwmnïau sy'n ymateb i'r holiadur, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau sy'n cynnig cymorth mewn rhyngwladoli i fusnesau bychain a chanolog.
Os hoffech gymryd rhan yn yr holiadur, neu hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect ymchwil, cysylltwch â mi ar:
E-bost: [email protected]
Ffôn: (+44) 01970 622987